Newyddion cyffrous! Enillodd un o’n rhaglenni Fedal Efydd yng Ngwobrau Radio, Gwyliau Efrog Newydd, 2019.
Roedd ‘Cymry 1914-1918 – Heddwch ’ ymhlith yr enillwyr yn y categori Hanes.
Darlledwyd y rhaglen yn rhan o gyfres BBC Radio Cymru am brofiadau Cymreig yn ystod Y Rhyfel Byd Cyntaf.
Roedd yn cynnwys hanes rhai o’r Cymry fu’n llygad dystion i’r digwyddiadau yn 1918 wrth i’r gwrthdaro ddod i ben, yn ogystal â thystiolaeth teuluoedd heddiw am eu perthnasau 100 mlynedd yn ôl.
Gallwch wrando arni fan hyn