S4C
Caradoc Evans oedd ‘bachgen drwg’ llenyddiaeth Cymru. Pan gyhoeddodd ‘My People: Stories of the Peasantry of West Wales’ 100 mlynedd yn ôl, tynnodd nyth cacwn ar ei ben.
Roedd ei straeon grotésg yn pardduo y gymdeithas gapelyddol Gymraeg ei hiaith lle cafodd ei fagu.
Condemniwyd y gwaith fel ‘the literature of the sewer’.
Ond roedd ei ddylanwad yn fawr. Daeth Dylan Thomas a’i ‘genhedlaeth aur’ o awduron Cymreig oedd yn llenydda yn Saesneg i’w disgrifio fel ‘meibion Caradoc’. Iddyn nhw roedd yn athrylith oedd wedi cynhyrchu math arbennig o lenyddiaeth newydd i Gymru – James Joyce Cymru.
“Dogfen hynod ddifyr, dadlennol a deallus am bwnc ac awdur hollol ddiarth i mi a ddisgrifiwyd fel James Joyce Cymru…” Dylan Wyn Williams, adolygydd, Golwg 23.4.2015)