Cyrhaeddodd rhaglen gan Silin y rhestr fer derfynol yn y categori Dogfen Radio yng Ngŵyl y Cyfryngau Celtaidd.
Darlledwyd ‘Captain Jack’s War’ ar BBC Radio Wales ym mis Tachwedd, 2014, i goffáu canmlwyddiant dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf.
Roedd Capten Jack Lloyd Jones o Aberaeron yng ngorllewin Cymru ac yn forwr gyda’r Llynges Fasnachol. Yn 1917, roedd yn gwasanaethu ar yr S.S. Lundy Island pan gafodd ei suddo gan long rhyfel Almaenaidd yn Môr De’r Iwerydd. Bu’n garcharor ar long y gelyn gyda gweddill y criw am dros 2 fis. Ar ôl dychwelyd adref, cafodd y llun hwn ei dynnu gyda’i fab, John, a’i wraig, Jane.