S4C
Stori ysbïo am fab i löwr o Gwm Tawe fu’n rhannu cyfrinachau gwleidyddol gyda Lenin mewn siop farbwr yn Zurich yn ystod Y Rhyfel Byd Cyntaf.
Yn y misoedd cyn ei farwolaeth, bu cyn-Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, yn ymchwilio i wasanaeth dirgel ei hen ewythr, Morgan Watkin.
Erbyn i Rhodri ddod i’w adnabod, roedd Morgan Watkin yn un hoelion wyth y gymdeithas yng Nghymru. Ond y tu ôl i wyneb parchus yr ysgolhaig roedd na gyfrinach yn llechu: cafodd Morgan ei recriwtio i ysbïo gan David Lloyd George, a ddaeth yn Brif Weinidog Prydain yn 1916, i chwarae rhan allweddol yn Y Rhyfel Mawr.
Roedd Rhodri Morgan yn cofio Morgan Watkin yn iawn ac roedd am ddeall sut y daeth bachgen a adawodd yr ysgol yn ifanc i weithio o dan ddaear yng Nghwm Tawe, ac yna fel saer maen, yn ffigwr academaidd blaenllaw.
A sut y daeth i rannu cyfrinachau mewn siop farbwr mewn stryd gefn yn Zurich gyda Lenin, un o benseiri Chwyldro Rwsia?
Aeth Rhodri i’r Swistir lle ddaeth o hyd i dystiolaeth am waith ysbïo ei hen ewythr.
Roedd hi’n daith emosiynol i Rhodri. Wrth ddilyn yn ôl troed ei hen ewythr, Morgan Watkin, yn Zurich, dysgodd lawer am un o’i ddiddordebau pennaf – hanes cythryblus gwleidyddiaeth yr ugeinfed ganrif – a llawer mwy am hanes rhyfeddol ei deulu ei hun.
Dyma fan cyfarfod i ysbïwyr o bob gwlad yn ystod y rhyfel. Roedd Lenin yn gwsmer rheolaidd yma yn ystod ei amser yn alltud yn y Swistir.
Rhaglen ‘…drawiadol a chofiadwy…’, (Sioned Williams, adolygydd, Barn, Mai 2018)
‘…an intriguing documentary…’ (Tony Allen Mills, ‘Uncovering the murky tale of Lenin and Rhodri Morgan’s family’, The Sunday Times, Mawrth 25, 2018)